Cymraeg

Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, 1912-2012

Ariennir y prosiect Elyrch100 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’n brosiect sydd yn archwilio, cadw a dathlu treftadaeth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae’n nodi canmlwyddiant yr Elyrch yn 2012, ac yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe.

Yr ydym yn sefydlu archif ar-lein, fydd yn cynnwys atgofion cefnogwyr, ffotograffau a dogfennau hanesyddol eraill.  Trwy roi llais i ddilynwyr pêl-droed, mae’r prosiect yn archwilio ac yn dathlu’r berthynas rhwng Clwb Pêl-droed Abertawe a’r gymuned, ac yn creu cofnod parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yr archif ar-lein hefyd yn cynnwys taflenni a phecynnau addysgol yn esbonio ac yn ymchwilio lle’r clwb yn nhreftadaeth y gymuned leol.

Hoffem i bobl o bob oedran gofio am eu profiadau o fod yn selogion yr Elyrch.  Hoffem nodi’r holl bethau hynny y mae hanes fel arfer yn eu hanghofio – pam fod pobl o bell ac agos yn cefnogi clwb pêl-droed, eu hofergoelion a defodau bychain, sut mae cyd-bwyso gofynion pêl-droed, teulu, arian a phellter, pa fath o deimlad ydy ennill neu golli gêm 0 5-0, hyd yn oed sut oedd y toiledau yn y Vetch ers llawer dydd.

Beth bynnag eich stori, a beth bynnag y mae’r Elyrch yn ei olygu i chi, ein dymuniad yw cofnodi eich profiadau er mwyn i bobl eu darllen yn ystod ail ganrif y clwb. Does dim gwahaniaeth os ydych yn ddaliwr tocyn tymor neu yn gefnogwr dros y we. Gallwch ddarllen rhai o’r ymatebion cynnar i’r arolwg yma.

 

Leave a comment